O Arglwydd da yr eglwys deg

1,2,3;  1,3,2.
(Doniau Ysprydol / Urddiad gweinidog)
O Arglwydd da yr eglwys deg,
  Ei Phen a'i Hateg ffyddlon,
Santeiddia, dysg, a nertha di
  Dy egwan weinidogion.

O, gwisg yn awr dy weision dwys
  Yn gymhwys â'th gyfiawnder;
Pob dawn ysbrydol iddynt rho,
  A chryfder o'r uchelder.

Yn hael disgyned megys gwlith
  Dy nefol fendith arnynt;
A dyro hynod lwyddiant hir
  I'r gair a heuir ganddynt.
Benjamin Francis 1734-99

Tôn [MS 8787]:
Dyfrdwy (John Jeffreys 1718-98)
Dyfroedd Siloah (John Williams 1740-1821)

gwelir: Duw gwisg dy weinidogion oll

(Spiritual Gifts / The Ordination of Ministers)
O good Lord of the fair church,
  Its Head and its faithful buttress,
Sanctify, teach, and strengthen thou
  Thy weak ministers!

O, clothe now thy intent servants
  Entirely with thy righteousness;
Every spiritual gift to them give,
  And strength from the height.

Generously let descend like dew
  Thy heavenly blessing upon them;
And give a notable, long success
  To the word sown by them.
tr. 2016 Richard B Gillion

The middle column is a literal translation of the Welsh. A Welsh translation is identified by the abbreviation 'cyf.' (emulation by 'efel.'), an English translation by 'tr.'

~ Emynau a Thonau ~ Caneuon ~ Cerddi ~ Lyrics ~ Home ~